Mark Drakeford AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

 Ein cyf / Our ref  SF/LG/3071/12       

 

 27 Tachwedd 2012

 

 

 

Annwyl Mark

 

Rydym yn cyfeirio at eich llythyr dyddiedig 22ain Hydref a oedd yn cynnwys copi o’ch llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dyma ymateb i’r materion roeddech wedi’u codi.

 

1.    Gwybodaeth

 

Rydym yn falch bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud o ran cyflwyniad ac eglurder papurau’r gyllideb a’r dystiolaeth ysgrifenedig.

 

Roeddech yn cyfeirio at y £5 biliwn sydd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer y Weithred “Cyflenwi Gwasanaethau Craidd”. Yn nogfen naratif y gyllideb a ddaeth gyda’r Gyllideb Ddrafft, am y tro cyntaf roeddem wedi cyhoeddi dyraniadau dangosol Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer 2013-14 sy’n cael eu cyllido o’r Weithred hon. Er hwylustod mae’r rhain yn cael eu rhoi isod.

 

     Dyraniadau Refeniw Dangosol Byrddau Iechyd 2013-14

 

£000

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

851,215

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

934,626

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

1,149,556

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

714,970

Bwrdd Iechyd Cwm Taf

512,489

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

639,718

Bwrdd Iechyd Powys

227,118

Cyfanswm

5,029,692

 

Gallai’r dyraniadau dangosol hyn newid a byddant yn cael eu cadarnhau yn nogfen Dyraniadau Refeniw Byrddau Iechyd 2013-14 a gyhoeddir cyn diwedd y flwyddyn galendr. Bydd copi o’r ddogfen hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y ddogfen Dyraniadau Refeniw Byrddau Iechyd yn rhoi rhagor o fanylion am y ffrydiau ariannu gwahanol a ddarperir i bob Bwrdd Iechyd, gan gynnwys y ffrydiau ariannu hynny sydd wedi’u neilltuo at ddibenion penodol. Bydd yn rhoi manylion y cyllid sydd ar gael i bob Bwrdd Iechyd i dalu costau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol a Gwasanaethau Ysbytai ac Iechyd Cymunedol, gan gynnwys cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

 

Ac eithrio ffrydiau ariannu wedi’u neilltuo, mae rhwydd hynt i Fyrddau Iechyd Lleol ddefnyddio eu dyraniad fel sy’n briodol yn eu barn nhw i ddiwallu anghenion gofal iechyd eu poblogaeth a chyflawni yn ôl blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Roedd Gosod y Cyfeiriad yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yng nghyswllt trawsnewid gwasanaethau ac ail gydbwyso gofal o ysbytai i sefydliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Y ffocws yw datblygu gwaith integredig rhwng y sectorau gofal sylfaenol ac eilaidd a datblygu modelau gofal newydd i ddiwallu anghenion pobl yn y ffordd orau yn eu hardal leol. Y nod yw mynd ati'n weithredol i dynnu cleifion at wasanaethau o ansawdd uchel sydd wedi'u trefnu yn nes at eu cartref a chyflenwi rhagor o wasanaethau a chefnogaeth mewn sefydliadau sylfaenol a chymunedol. Fodd bynnag, ni fyddai’n briodol gosod cyllideb flynyddol yn genedlaethol ar gyfer faint o gyllid a ddefnyddir ym mhob sefydliad gofal. Mae’n fwy priodol i bob Bwrdd benderfynu ar hynny’n lleol ar sail sut y maen nhw’n ymateb i’r weledigaeth hon yn unigol.

 

O ran bod yn fwy eglur ynghylch trosglwyddo rhwng cyllidebau, rydym wedi rhoi manylion i'r Pwyllgor am y symudiadau rhwng Gweithredoedd a rhagor o fanylion am drosglwyddo rhwng Llinellau Gwariant yn y Gyllideb. Yn y sesiwn craffu eglurodd swyddogion fod nifer o’r symudiadau’n adlewyrchu newidiadau mewn trefniadau cyflenwi ar gyfer rhaglenni ac nad oeddent yn ostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y rhaglenni hynny. Er enghraifft, trosglwyddo cyllid o gyllidebau rhaglenni presennol i gyllidebau refeniw craidd y Byrddau Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar ben hynny, mae £2.1 miliwn wedi cael ei drosglwyddo o’r Weithred Cefnogi Addysg a Hyfforddiant i’r Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau yn 2013-14 yng nghyswllt cyllid a fydd yn llifo drwy CCAUC i Brifysgol Caerdydd i gefnogi addysg feddygol israddedigion.

 

2.    Cyllido Byrddau Iechyd Lleol

 

Mae’r drefn ddeddfwriaethol bresennol yn rhoi dyletswyddau ariannol penodol ar Fyrddau Iechyd Lleol unigol, yn bennaf gan fynnu na fydd faint o adnoddau a ddefnyddir mewn blwyddyn ariannol yn fwy na’r swm a bennwyd ar gyfer y flwyddyn honno gan Weinidogion Cymru. Cydnabyddir bod hyn yn gallu cyfyngu ar sefydliadau’r GIG i gael yr hyblygrwydd i gynllunio a threfnu eu hadnoddau dros y tymor canolig.

 

Mae’n hanfodol gallu cynllunio a threfnu gwasanaethau mewn ffordd hyblyg sy’n diwallu’r galw a’r gofynion. Mae symud adnoddau o amgylch y system, rhwng ffiniau ac ar draws blynyddoedd ariannol, yn rhan angenrheidiol o’r trefniadau i gyflenwi gwasanaeth iechyd effeithiol. O ganlyniad, mae gwaith i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau presennol yn cael ei wneud gan weithgor sy’n cynnwys gweithwyr ariannol proffesiynol o’r GIG a Llywodraeth Cymru.

 

Gan gydnabod y gallai gymryd blynyddoedd i weithredu newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol, yn y lle cyntaf mae’r gweithgor hwn yn ystyried dewisiadau mae modd eu gweithredu yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae’r rhain yn golygu atebion tymor hwy ar gyfer hyblygrwydd tymor canolig wedi’i gynllunio ac atebion tymor byrrach ar gyfer broceriaeth.

 

Mae trefniant hyblygrwydd wedi’i gynllunio’n cael ei ystyried i gefnogi’r cynllunio tymor hwy a’r cylch ariannol, a bwriedir iddo ddarparu adnoddau hyblyg sy’n gysylltiedig â chynllun ariannol tymor canolig, integredig, cytbwys a chymeradwy. Rhagwelir y byddai Byrddau Iechyd Lleol yn ceisio'r trefniant hwn pan fyddant yn rhagweld uchelbwyntiau ac iselbwyntiau ariannol mewn cynllun ariannol 3 blynedd cytbwys.

 

Ar y llaw arall, yn aml bydd materion ariannol penodol yn codi yn ystod y flwyddyn a sialensiau tymor byr nad oes modd cynllunio ar eu cyfer ac nad yw’n hawdd eu rhagweld, ac yn yr amgylchiadau hyn cydnabyddir bod angen trefniadau hyblygrwydd ychwanegol a thymor byrrach. Mae trefniant broceriaeth tymor byr yn cael ei ddatblygu fel trefniant rhannu risg, yn debyg i Gronfa Risg Cymru, a fyddai’n galluogi Byrddau Iechyd Lleol i alinio cyllid â gwariant ar ddiwedd blwyddyn, er mwyn cael cydbwysedd ariannol a diwallu’r Ddyletswydd Terfyn Adnoddau statudol sydd eisoes yn bodoli.

 

Byddai’r dewisiadau tymor canolig a thymor byr yn cael eu rheoli yng nghyllideb Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio cyllidebau iechyd canolog, cronfeydd wrth gefn a chyllidebau rhaglenni mewn ffordd wedi’i chynllunio.

 

Ar ben hynny, mae gwaith wedi cael ei ddechrau i edrych ar y cyfleoedd pellach y gellid eu darparu drwy newid deddfwriaeth sylfaenol sy'n llywodraethu amgylchedd gweithredu ariannol presennol Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Iechyd Lleol. Mae hyn yn ateb tymor hirach o lawer.  Os yw’r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol yn ymarferol, ni ddisgwylir y byddai sefydliadau’r GIG yn elwa o unrhyw newidiadau arfaethedig tan o leiaf 2015/16.

 

 

3.    Tybiaethau’r gyllideb a chynllunio ar gyfer cyflenwi ymrwymiadau’r gyllideb

 

Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth am ymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu.

 

Gyda golwg ar gyllid ar gyfer archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed, byddwn yn ystyried cyngor pellach ar y gwaith hwn maes o law, ac wedyn byddwn yn penderfynu ar ein dull gweithredu manwl. Mae swyddogion yn gweithio i lunio cynnig cyffredinol i’w ystyried, gan gynnwys cyngor am fodelau cyflenwi, amserlen gweithredu a chostau. Byddai’n amhriodol rhoi rhagor o sylwadau am y manylion ar hyn o bryd, cyn cael cyfle i ystyried hyn ymhellach.  Fodd bynnag, bydd unrhyw gostau sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon yn 2013-14 yn dod o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli, y rheini ar gyfer rhaglenni gwella iechyd yn bennaf.

 

Gyda golwg ar gyllid ar gyfer gwella’r mynediad at wasanaethau meddygon teulu i bobl sy’n gweithio, bydd ail gam y rhaglen hon, o 2013/14, yn canolbwyntio ar sicrhau bod apwyntiadau ar gael y tu allan i oriau contract, hynny yw ar ôl 6.30pm. Ar hyn o bryd mae 11% o feddygfeydd yn cynnig oriau agor estynedig gwasanaeth ychwanegol dan gyfarwyddyd, sy’n costio £0.7m y flwyddyn, sy’n gyfystyr â thua dwy awr ychwanegol fesul meddygfa gyda 6,000 o gleifion. Y bwriad fydd cyllido cost ychwanegol y mynediad estynedig hwn gydag adnoddau sydd eisoes ar gael, drwy adolygu ac ail-alinio’r gwariant presennol ar wasanaethau ychwanegol. Ar sail y fanyleb bresennol a gan ganiatáu ar gyfer cynnydd mewn chwyddiant, amcangyfrifir mai’r costau ar gyfer cynyddu nifer y meddygfeydd sy’n cynnig oriau agor estynedig gwasanaeth ychwanegol dan gyfarwyddyd (un noson neu ddwy'r wythnos) i 30% o feddygfeydd yn 2013/14 a 50% yn 2015/16 yw £1.8m a £3.1m y naill a’r llall. Mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i asesu a yw darparu oriau estynedig y gwasanaeth ychwanegol presennol yn diwallu anghenion cleifion ac yn sicrhau gwerth am arian. Defnyddir canfyddiadau’r adolygiad hwn i gyfrannu at y dull gweithredu i ymestyn oriau agor ar ôl 6.30pm yn ystod yr wythnos. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan Fyrddau Iechyd, gan weithio gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yng Nghymru, a daw’r adolygiad i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr 2012.   

 

Byddwn, wrth gwrs, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gadarnhau a chyllido costau’r rhaglenni hyn wrth iddynt barhau i ddatblygu a chael eu gweithredu.

 

4.    Cynllunio a gwariant cyfalaf

 

Mae’r cyllid cyfalaf yng Ngweithred Cyflenwi’r GIG yn cefnogi cyflenwi Rhaglen Cyfalaf Cymru Gyfan. 

 

Ac eithrio’r £12 miliwn o gyfalaf ychwanegol sydd wedi cael ei briodoli i’r Weithred hon yn 2013-14 fel rhan o’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer cynlluniau penodol, bydd oddeutu £44 miliwn yn cael ei roi i gyrff y GIG fel dyraniadau yn ôl disgresiwn.  Mae modd defnyddio’r rhain i wella ac i ddiweddaru’r ystad bresennol, gan gynnwys targedu’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw, prynu mân offer a mân waith.

 

Mae gweddill y cyllid ar gael ar gyfer cynlluniau unigol.  Rhaid cael cyfiawnhad dros bob penderfyniad buddsoddi wrth ddyrannu cyfalaf a chaiff hynny ei wneud drwy werthuso’r dewisiadau a nodir mewn achos busnes mewn ffordd systematig.  Mae dull gweithredu Model 5 Achos Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn safonol ar gyfer cyfiawnhau pob buddsoddiad cyfalaf mawr mewn gofal iechyd yng Nghymru. 

 

A throi at ystyried cynlluniau gwasanaeth y GIG, fel y gwyddoch, yn ddiweddar roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymgynghori ynghylch eu cynigion ar gyfer gwasanaethau i’r dyfodol.   Maent yn awr yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriadau cyn cyflwyno’u cynigion terfynol. Roedd pedwar Bwrdd Iechyd De Cymru wedi dechrau’r rhaglen ymgysylltu tri mis o hyd ar 26 Medi a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan broses ymgynghori ffurfiol yn y flwyddyn newydd.  Felly nid oes dim cynigion cyfalaf pendant na therfynol ar hyn o bryd.  Rwyf yn cytuno bod angen gwerthuso gofynion cyfalaf Bwrdd Iechyd Lleol yn amserol ac yn rheolaidd a gallaf gadarnhau bod fy swyddogion yn cynnal trafodaethau rheolaidd â sefydliadau’r GIG i ganfod a rheoli cyfleoedd buddsoddi wrth iddynt ddod i’r fei i sicrhau ein bod yn parhau i ganfod, cyllido a chyflenwi’r cynlluniau blaenoriaeth.

 

5.    Arian wrth gefn

 

Bydd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi ein bod yn rheoli cyllideb dros £6 biliwn, sy’n cael ei defnyddio i gyllido ystod eang o raglenni, gan gynnwys, wrth gwrs, cyllid craidd GIG Cymru. Yn y cyd-destun hwn, mae’n arferol y bydd cynlluniau gwariant manwl yn newid wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, yn enwedig pan fydd eisiau ystyriaeth neu asesiad pellach cyn ymrwymo cyllid ar raglen newydd, neu ymestyn rhaglen sydd eisoes ar waith. Drwy reoli’r gyllideb sylweddol hon yn barhaus ac yn ofalus y gall swyddogion ddod o hyd i gyfleoedd i ailgyfeirio arian yn ystod y flwyddyn i ddiwallu ymrwymiadau a phwysau newydd wrth iddynt godi. Efallai nad oedd modd rhagweld y rhain wrth osod y Gyllideb. Ar ben hynny, mae’n hollol briodol dal elfen o’r gyllideb yn ôl ar ddechrau’r flwyddyn ariannol i ddiwallu risgiau ariannol a all godi wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

 

Drwy’r prosesau hyn caiff “cronfa” wrth gefn ei chynhyrchu i liniaru yn erbyn risgiau ariannol a thalu am bwysau yn ystod y flwyddyn. Mae cynigion ein cyllideb ddrafft yn cynnwys £30 miliwn o arian wrth gefn ar gyfer 2013-14, sydd yn y Weithred cyllideb Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, daeth dyraniadau ychwanegol i Fyrddau Iechyd Lleol o gyfuniad o arian wrth gefn Llywodraeth Ganolog pan nad oedd digon o "gronfa" wrth gefn yn y Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant i dalu am y diffygion disgwyliedig yng nghyllidebau’r GIG.

 

6.    Neilltuo

 

Fel rhan o’u ffurflenni monitro ariannol misol i Lywodraeth Cymru, gofynnir i Fyrddau Iechyd Lleol gadarnhau eu bod yn defnyddio eu holl gyllid sydd wedi'i neilltuo at y dibenion y cafodd yr arian hwnnw ei ddyrannu. Byddai swyddogion yn mynd ar drywydd unrhyw ddiffyg mewn gwariant a fyddai’n cael ei ragweld yn y dyraniad wedi’i neilltuo gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Rydym wedi egluro i’r Pwyllgor o blaen y materion penodol sy’n ymwneud â monitro cydymffurfiad â’r dyraniad wedi’i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl. Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, rydym yn gallu cadarnhau bod cyfanswm y gwariant perthnasol yn 2010-11 ar wasanaethau iechyd meddwl yn £607 miliwn o’i gymharu â’r swm a neilltuwyd sef £572 miliwn ar gyfer y flwyddyn honno – gwariant ychwanegol o £35 miliwn dros y swm a oedd wedi'i neilltuo. Bydd gwybodaeth 2011-12 ar gael yn gynnar yn 2013.

 

Gan edrych ymlaen, rydym wedi ymrwymo yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl y byddwn yn adolygu sail y trefniadau neilltuo, a bydd gwaith yn mynd rhagddo maes o law. Ar ben hynny, mae nifer o ffrydiau gwaith yn cael eu datblygu i wella ein dealltwriaeth o’r canlyniadau sy’n cael eu cyflenwi am y buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

 

Rydym wedi dechrau gweithio gyda grwpiau defnyddwyr i ddatblygu ffordd o fesur sut mae lles pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn gwella. Bydd y dull gweithredu arloesol newydd hwn yn mesur canlyniadau o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth. Rydym hefyd yn gweithio i ddatblygu trefn cyllid a chydymffurfiad newydd ar gyfer GIG Cymru, lle rhoddir mwy o bwys ar bob bwrdd iechyd lleol yn meincnodi ei lefel o fuddsoddiad ar bob cyflwr iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gyda chymheiriaid priodol, gan ystyried anghenion perthnasol eu poblogaeth o'u cymharu â’u cymheiriaid.  Yn olaf, rydym wedi dechrau gweithio i ddatblygu set ddata genedlaethol ar gyfer cofnodi gwybodaeth graidd am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl.     

 

7.    Cydweithrediad Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chyllidebau cyfun

 

Rydym yn cydnabod bod angen ysgogi cynnydd gwasanaethau integredig drwy ddarparu cyllid priodol i gefnogi cynlluniau newydd ac ymchwil perthnasol. Eleni, rydym yn buddsoddi £500,000 ychwanegol gyda’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i sicrhau arweinyddiaeth mewn integreiddio a chydweithredu.

 

Dros y ddwy flynedd nesaf a gyda nawdd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, rydym yn buddsoddi bron i £140,000 i gyllido Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth unigryw a fydd yn cefnogi datblygu mwy o gydweithredu effeithiol. Un o brif nodau’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yw datblygu’r dull i asesu ansawdd gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn sy’n defnyddio offer ymarferol i fesur cost ac effaith amrywiol fodelau gwasanaeth ar y cyd a chynhyrchu achos busnes wedi’i gostio ar gyfer gweithredu arferion mae modd eu trosglwyddo’n genedlaethol. 

 

Un rhaglen waith a gaiff fudd o'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yw'r fframwaith ar gyfer integreiddio gwasanaethau i bobl hŷn ledled Cymru, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2012/13. Bydd y Fframwaith yn rhoi’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau integredig ac rydym yn disgwyl y bydd angen i Lywodraeth Leol a Byrddau Iechyd ystyried a ffurfioli cyllidebau ar y cyd wrth gyflenwi gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd. Bydd Bwrdd Gwasanaethau Integredig Cenedlaethol yn goruchwylio gweithredu’r Fframwaith gan atgyfnerthu cyfleoedd a gwerth integreiddio ar lefel gorfforaethol.

 

Budd arall yw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ei fod fel rhan o setliad y flwyddyn nesaf yn creu cronfa ar wahân o £10 miliwn i gefnogi Awdurdodau Lleol i gyflenwi prosiectau cydweithredu rhanbarthol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i wasanaethau cymdeithasol yn eu gwaith gyda gwasanaethau iechyd.

 

Ar hyn o bryd mae gan bob Bwrdd Iechyd Lleol ac adran Gwasanaethau Cymdeithasol ofyniad cyllidebol i gyflenwi gwasanaethau ar y cyd pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol. Mae’r pwerau o dan Adran 33 o Ddeddf GIG (Cymru) 2006 yn darparu ar gyfer y gofyniad i sefydlu partneriaethau ar draws adrannau i integreiddio gwasanaethau ac mae wedi’i hwyluso drwy ystod eang o bolisïau a grantiau gan gynnwys y Grant ar gyfer Cydweithio. Roedd y Grant ar gyfer Cydweithio yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni rhagor o gydweithio rhwng y GIG a Llywodraeth Leol ac roedd wedi’i anelu at wella’r rhyngwyneb rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Rhwng dechrau’r cynllun yn 2001 a’i ddiwedd ym mis Mawrth 2011, roedd £90 miliwn ar gael i Awdurdodau Lleol ac roedd yr arian sefydlu hwn wedi arwain at rai llwyddiannau amlwg, er enghraifft, sefydlu gwasanaethau ail-alluogi cymunedol, a ragflaenodd timau adnoddau cymunedol sydd nawr yn cael eu datblygu ledled Cymru.

 

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod angen gwneud rhagor i sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn rhoi’r sylfaen ddeddfwriaethol i atgyfnerthu’r ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gydweithredu er buddiannau cost effeithlonrwydd a chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae darpariaethau’r Bil yn cynnwys pwerau cryfach sydd wedi’u hanelu at hybu cyllidebau cyfun, partneriaethau ffurfiol a hyblygrwydd arall ac mae modd defnyddio’r rheoliadau a’r cyfarwyddyd i orfodi prosesau o’r fath os bydd angen. 

 

Rydym yn anfon copi o’r llythyr hwn at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.

 

 

 

                                        

 

Lesley Griffiths AC

Minister for Health and Social Services

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gwenda Thomas AC

Deputy Minister for Children and Social Services

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol